A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cyfieithydd / Swyddle
Swydd:
Cyfieithydd
Cyflog:
£37,594 - £41,428
Cyfeirnod:
204146
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
Dyddiad Cau:
25-01-2026

Y rôl

Ydych chi'n angerddol am y Gymraeg? Oes gennych chi sgiliau iaith da a chreadigol? Ydych chi'n mwynhau helpu eraill gyda'u hanghenion o ran y Gymraeg? Rydyn ni'n chwilio am Gyfieithydd i ymuno â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ein Tîm Cyfieithu prysur.

Gan adrodd i Arweinydd y Tîm Cyfieithu, byddwch yn ymuno â thîm bach o gyfieithwyr ac yn cyfrannu at waith CNC o ran ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid gyda Chymraeg clir, cywir a chreadigol mewn modd amserol ac i safon uchel.


Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cyfieithu a phrawfddarllen amrywiaeth eang o ddogfennau i safon uchel i ddiwallu gofynion ein polisi iaith Gymraeg a'n harddull ysgrifennu mewnol.
  • Cysylltu â chyfieithwyr allanol i gaffael cyfieithiadau yn ôl y galw. Sicrhau ansawdd digonol y gwasanaeth allanol, gan fonitro ar gyfer cysondeb a glynu at arddull mewnol.
  • Blaenoriaethu gwaith yn effeithiol er mwyn rheoli llwyth gwaith, ceisiadau niferus a dyddiadau cau heriol.
  • Cyfathrebu'n effeithiol â chwsmeriaid i ddarparu lefelau uchel o wasanaeth a rheoli disgwyliadau yn effeithiol.
  • Arddangos sylw rhagorol i fanylion er mwyn cynnal safonau proffesiynol.
  • Cynnal system cadw cofnodion effeithlon er mwyn olrhain y galw a'r costau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o'ch cynllun datblygu personol (a elwir yn 'Sgwrs' yn CNC).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.


Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

  1. Profiad o weithio fel cyfieithydd.
  2. Gwybodaeth weithredol o Microsoft Office a meddalwedd cof cyfieithu.
  3. Y gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol.
  4. Aelodaeth lawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, neu barodrwydd i weithio tuag at aelodaeth lawn.
  5. Sgiliau rhyngbersonol da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  6. Ymwybyddiaeth o Safonau'r Gymraeg a pholisïau cysylltiedig sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
  7. Y gallu i wneud penderfyniadau o ran y defnydd o’r Gymraeg.


Gofynion y Gymraeg

    Hanfodol: C2 - Lefel hyfedredd uwch


Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio