A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch Swyddog Gweithredol Marchnata Brand / Swyddle
Swydd:
Uwch Swyddog Gweithredol Marchnata Brand
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
Hyd at £35,000
Cyfeirnod:
REC01502
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
19-01-2026

Disgrifiad Swydd

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Cefnogi'r gwaith o farchnata brand Trafnidiaeth Cymru (TrC) drwy gydlynu ymgyrchoedd o ddydd i ddydd a rheoli llif gwaith Brand Studio mewnol. Bydd deiliad y swydd hon yn sicrhau allbwn creadigol o ansawdd uchel, yn cyd-fynd ag egwyddorion brand TrC, ei safle a'i werthoedd, ac yn cefnogi gwelliannau sy'n seiliedig ar wybodaeth.

  • Cyflawni ymgyrchoedd a mentrau marchnata brand drwy gynllunio, cydlynu a chychwyn gweithgareddau gyda'r Rheolwr Marchnata Brand, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â strategaeth brand TrC i godi ymwybyddiaeth, ystyriaeth a dymuniadau.

 

  • Datblygu a rheoli asedau creadigol drwy friffio dylunwyr mewnol, ysgrifenwyr copi ac asiantaethau allanol gyda chyfarwyddiadau, amserlenni ac adborth clir, gan sicrhau bod allbynnau'n bodloni safonau brand ac yn cael eu cyflawni'n brydlon ac o fewn y gyllideb.

 

  • Cydlynu llif gwaith Brand Studio drwy olrhain briffiau, blaenoriaethu tasgau, a rheoli amserlenni cynhyrchu fel bod allbynnau creadigol yn cael eu cyflawni'n effeithlon a bod disgwyliadau rhanddeiliaid yn cael eu bodloni.

 

  • Cysoni gweithgarwch brand ac ymgyrchu ar draws yr holl sianeli marchnata drwy weithio gyda chydweithwyr yn y timau Ymgyrchoedd, Cyfryngau a Digidol i sicrhau bod negeseuon a gweithredu creadigol yn gyson ac yn integredig.

 

 

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Cymhwyster Lefel 4 CIM neu brofiad cyfatebol
  • Profiad o gydlynu ymgyrchoedd marchnata, brand neu greadigol.
  • Sgiliau trefnu rhagorol ac yn gallu rheoli llif gwaith.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.