Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Pam ymuno â S4C?
Mae S4C yn fwy na sianel deledu – rydym yn darparu gwasanaeth cyhoeddus unigryw sy’n chwarae rhan ganolog ym mywyd diwylliannol, democrataidd a chymdeithasol Cymru.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C, wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Rydym yn ehangu gwylio gyda’n cynnwys, yn datblygu’n wasanaeth digidol-yn-gyntaf, ac yn ymestyn ein heffaith y tu hwnt i’r sgrin gan gyfrannu’n gadarnhaol at ffyniant yr iaith, diwylliant Cymru a’r economi greadigol.
Rydym ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig, trefnus a dibynadwy i ymuno â ni fel Swyddog Materion Cyhoeddus. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i sicrhau bod lle S4C o fewn bywyd cyhoeddus Cymru mor gryf, dylanwadol ac ysbrydoledig ag erioed.
Yn S4C, rydym ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Cer Amdani, Dathlu Pawb.
Byddwch yn ymuno â S4C ar adeg o newid cyffrous, gan gyfrannu at ddyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus sy’n ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru gyfan.
Trosolwg o’r Swydd
Fel Swyddog Materion Cyhoeddus, byddwch yn cefnogi’r Pennaeth Materion Cyhoeddus i wireddu gweithgareddau ymgysylltu S4C, gan helpu i adeiladu a chynnal perthnasau cadarnhaol â rhanddeiliaid allweddol, monitro datblygiadau polisi a gwleidyddol, a chyfrannu at gyfathrebu clir ac effeithiol ar faterion sy’n bwysig i’r sianel.
Mae’r rôl hon yn addas i rywun sy’n mwynhau cyfathrebu, dylanwadu ac adeiladu perthnasau ar draws bywyd cyhoeddus Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda thimau ar draws S4C i sicrhau dull unedig ac ysbrydoledig o hyrwyddo cenhadaeth gyhoeddus S4C.
Manylion Eraill
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa)
Cyflog: £37,000 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 26 Ionawr 2026 at Pobl@s4c.cymru neu at Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.