A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Noddwr Prosiectau / Swyddle
Swydd:
Noddwr Prosiectau
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£45,000
Cyfeirnod:
0358
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
15-02-2026

Y Swydd

Noddwr y Prosiect yw arweinydd y prosiect ar gyfer cyflawni a bydd yn ymgysylltu â chleientiaid, gweithrediadau a thimau gweithredu er mwyn gallu rhoi cynlluniau gwella trafnidiaeth ar waith yn llwyddiannus ar ran Trafnidiaeth Cymru (TrC).

 

 

Cyfrifoldebau'r swydd

  • Bod yn gynrychiolydd y cleient, a bod yn bwynt cyswllt gwybodus ar gyfer materion masnachol a gweithredol sy'n ymwneud â chyflawni cynlluniau gwella trafnidiaeth drwy fonitro, partneru a chyfathrebu â thimau cyflawni prosiectau er mwyn cyflawni'n effeithiol.
  • Olrhain aliniad y cynllun yn erbyn achos busnes y rhaglen drwy weithio ar draws portffolio o brosiectau i liniaru risgiau prosiect a sicrhau cyswllt effeithiol rhwng cynlluniau.
  • Cynllunio'r gwaith o gyflawni prosiect hyd at y dyddiad cwblhau drwy adolygu amserlenni misoedd ymlaen llaw i ddeall yr heriau posibl, er mwyn rheoli rhaglenni'n effeithiol.
  • Cyflawni'r prosiectau trafnidiaeth drwy gydlynu rhanddeiliaid mewnol ac allanol a'u gofynion ar yr un pryd â chynnal gwasanaethau i'n cwsmeriaid.

 

Am beth rydyn ni'n chwilio

  • Profiad blaenorol o reoli prosiectau gyda dealltwriaeth o gylch bywyd prosiectau.
  • Profiad o reoli rhanddeiliaid, gyda'r gallu i gyfleu heriau ac atebion posibl.
  • Profiad amlwg o gynllunio, blaenoriaethu a chyflawni gwaith o safon uchel yn gyson ac o fewn yr amser sy'n ofynnol.
  • Profiad o arwain a rheoli cynlluniau buddsoddi.

 

Sgiliau Cymraeg

 

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.

 

Cyfle Cyfartal

Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio."

 

Pwy ydyn ni 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.

 

Y camau nesaf

Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.

Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**