A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Prif Reolwr Caffael / Swyddle
Swydd:
Prif Reolwr Caffael
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
Hyd at £75,000
Cyfeirnod:
REC01500
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
16-01-2026

Disgrifiad Swydd

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

  • Ysgwyddo perchnogaeth dros biblinellau caffael ar draws TrC a’u cynnal a’u cadw drwy weithio mewn partneriaeth â phob Cyfarwyddiaeth wrth ddatblygu, rhaglennu a goruchwylio gweithgareddau er mwyn llywio a datblygu gweithgarwch caffael y sefydliad.
  • Rhoi cyngor ac arbenigedd ar draws TrC ynglŷn â strategaethau caffael priodol drwy gynnal a chynghori ar ddadansoddiad o’r farchnad, llwybrau posibl ac sy’n cydymffurfio i’r farchnad a gofynion ymgysylltu â chyflenwyr, gan sicrhau bod yr holl waith caffael yn cydymffurfio â’r Polisi Caffael Cynaliadwy a Chadwyn Gyflenwi, yn ogystal â'r prosesau, y gweithdrefnau a deddfwriaeth berthnasol.
  • Arwain a chyflawni gweithgareddau caffael cymhleth drwy gynghori rhanddeiliaid am opsiynau, datblygu strategaethau, drafftio dogfennau perthnasol, cydlynu tendrau a gwerthusiadau, gwneud argymhellion gwybodus i gefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau, a sicrhau bod y trefniadau’n fasnachol gadarn a’u bod yn cynrychioli buddiannau gorau TrC.
  • Datblygu manylebau gwasanaeth a thelerau cytundebol priodol drwy weithio gyda rhanddeiliaid/timau prosiect i alluogi paratoi ar gyfer prosesau tendro.
  • Arwain ar arloesedd a chaffael cynaliadwy yn y gadwyn gyflenwi drwy weithio’n agos gyda Thîm Datblygu Cynaliadwy TrC i sicrhau bod TrC a’i gadwyn gyflenwi yn gweithredu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Canfod a gweithredu ffyrdd cost-effeithiol o ddatblygu a gwella arferion caffael a’r defnydd o adnoddau ar draws y busnes drwy adolygu arferion caffael presennol a dadansoddi gwybodaeth ariannol, gwybodaeth am y farchnad a gwybodaeth reoli i sicrhau bod TrC yn cael darpariaeth gaffael o’r radd flaenaf sy’n cydymffurfio â’r gofynion.
  • Arwain yn y gwaith o gefnogi prosiectau trawsbynciol corfforaethol ac adrannol y tu allan i’r maes caffael fel rhan o dimau prosiect amlddisgyblaethol, er mwyn sicrhau bod sylw dyledus yn cael ei roi i ffactorau caffael a masnachol, i allu a chapasiti’r farchnad, ac i risgiau masnachol

 

  • Dirprwyo ar ran Pennaeth Caffael TrC drwy fod yn bwynt cyswllt i berchnogion contractau TrC a Rheolwyr Rhaglenni a Phrosiectau ar gyfer ymholiadau a gofynion cymhleth ynghylch caffael neu’r gadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau datrysiad amserol a fydd yn amharu cyn lleied â phosibl ar wasanaethau TrC.
     
  • Parhau i ddatblygu’n broffesiynol drwy gynnal gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth, y polisïau, yr arferion, a’r gweithdrefnau presennol, yn ogystal ag ymchwilio i arloesedd i sicrhau bod TrC yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion ac yn ymateb yn rhagweithiol i newidiadau yn y farchnad a’r gyfraith.
  • Rheoli, hyfforddi a mentora tîm o staff caffael sy’n ymgymryd ag ystod eang o brosiectau a thasgau wrth ddarparu gwasanaeth caffael mewn ffordd gost-effeithiol ac sy’n cydymffurfio, gan gyfrannu at feithrin y tîm a chynghori ar yr arferion gorau er mwyn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir ar gyfer y prosiect.

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol fel gradd berthnasol, MCIPS neu MRICS neu brofiad perthnasol amlwg.
  • Gwybodaeth arbenigol a phrofiad o weithio yn y Sector Cyhoeddus a/neu amgylchedd caffael rheoledig, gan gynnwys gwybodaeth am gaffael a chyfraith contractau mewn perthynas â PCR2015
  • Gwybodaeth am reoliadau, gweithdrefnau a fframweithiau ariannol y sector cyhoeddus.
  • Profiad o ddarparu digwyddiadau caffael cymhleth ar gyfer ystod eang o ofynion a bod yn gyfrifol am brosesau caffael gyda blaenoriaethau a disgwyliadau heriol gan randdeiliaid.
  • Profiad o greu cynlluniau categori a/neu biblinellau yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o’r gofynion, marchnadoedd, arloesedd a chyflenwyr.
  • Profiad o gynllunio a threfnu gwaith tîm a chydlynu gweithgareddau cymhleth.
  • Profiad o weithio fel rhan o dîm prosiect traws-swyddogaethol ar brosiectau strategol.
  • Gallu nodi materion a allai effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau a datblygu opsiynau i liniaru problemau, gwneud penderfyniadau a datrys problemau.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.