Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Cynorthwyydd Cynnal a Chadw, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Math o swydd wag: Parhaol/Llawn Amser
Categori: Adeiladau
(Adeiladau ac Ystadau)
Ystod cyflog: Gradd B: £25,336.62
Oriau: 37 awr yr wythnos
Gofyniad lefel iaith Gymraeg: Dymunol
Crynodeb o'r Swydd
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cynnal a Chadw i ymgymryd ag amrywiaeth o waith trwsio a thasgau cynnal a chadw cyffredinol yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.
Rydym yn chwilio am rywun sydd eisiau bod yn rhan o dîm ymroddgar sy'n gofalu am rai o brif asedau Cymru o ran adeiladau treftadaeth.
Rydym yn chwilio am rywun a fyddai'n canolbwyntio ar helpu i gadw‘n cyfleusterau mewn cyflwr mor dda â phosibl, er mwyn cynnig profiad diogel a dymunol i'n hymwelwyr a'n staff.
Bydd y rôl yn cael ei lleoli'n bennaf ar safle Sain Ffagan (gyda'r potensial i deithio i rai o'n safleoedd eraill yn ôl yr angen) a bydd yn sicrhau bod strwythur adeiladau allweddol ar gael i'w defnyddio drwy’r amser, gan gyflawni pob math o dasgau cynnal a chadw o sicrhau bod systemau draenio to yn gweithio'n iawn i ymateb i’r angen i glirio draeniau a phopeth rhwng y ddau hyn.
Prif Ddiben y Swydd
Helpu:
- I sicrhau lle bynnag y bo modd, fod gwasanaethau, cyfarpar ac offer yr Amgueddfa yn cael eu cadw mewn cyflwr gweithio da.
- I gynnal a chadw adeiladau'r Amgueddfeydd.
- i ymgymryd â thasgau cynnal a chadw bach arferol
Dyddiad Cau: 02 Ebrill 2026 @ 5pm.