A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Peiriannydd Seilwaith / Swyddle
Swydd:
Peiriannydd Seilwaith
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£45,000 - £50,000
Cyfeirnod:
REC01392
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
11-01-2026

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Arwain y gwaith o weithredu, cynnal a chadw ac optimeiddio seilwaith cwmwl a gweinydd Trafnidiaeth Cymru (TrC), gan gefnogi gweithrediadau trafnidiaeth hanfodol. Mae'r rôl hon yn pontio'r gwaith cyflawni gweithredol a chynllunio strategol, gan gyfrannu at fapiau seilwaith a sicrhau bod systemau'n ddiogel, yn gadarn ac yn raddadwy.

  • Gweithredu a chynnal seilwaith gweinydd ar draws Azure a llwyfannau ar y safle drwy gyflwyno a rheoli rhith weinyddion a gweinyddion ffisegol. Byddwch yn defnyddio adnoddau Azure ac adnoddau canolfannau data lleol, gan ddilyn arferion gorau ar gyfer ffurfweddu a diogelwch i sicrhau seilwaith dibynadwy, graddadwy a diogel sy'n cefnogi rhaglenni sy'n hanfodol i fusnes.

 

  • Gweinyddu gwasanaethau Microsoft 365 gan gynnwys Exchange, SharePoint ac Intune drwy ffurfweddu, monitro a datrys problemau gwasanaethau Microsoft 365 gan ddefnyddio'r ganolfan weinyddol a PowerShell, i gynnal prosesau cyfathrebu, cydweithio a rheoli dyfeisiau di-dor ym mhob rhan o’r sefydliad.

 

  • Monitro ac optimeiddio gwasanaethau gwneud copïau wrth gefn a dyblygu drwy ddefnyddio Veeam ac adnoddau cysylltiedig i drefnu, dilysu ac adfer copïau wrth gefn, ac addasu gosodiadau dyblygu ar sail metrigau perfformiad, i ddiogelu cywirdeb data a sicrhau dull cyflym o adfer os bydd y system yn methu neu os bydd data'n cael ei golli.

 

  • Cymryd rhan mewn prosiectau seilwaith a chyfrannu at gynlluniau adnewyddu technegol 12 mis ymlaen llaw a datrys materion cymhleth sydd wedi'u huwchgyfeirio drwy ddarparu cymorth ail reng i'r Desgiau Gwasanaeth a'r timau Diogelwch er mwyn i’r busnes allu parhau.

 

  • Cydweithio â thimau rhwydwaith a diogelwch i sicrhau integreiddio a chydymffurfio di-dor - drwy gymryd rhan mewn cyfarfodydd cynllunio a gweithredu traws-swyddogaethol, rhannu gofynion seilwaith a bod yn gydnaws â phrotocolau diogelwch, er mwyn cynnal amgylchedd TG cydlynol sy'n cydymffurfio ac sy'n cyrraedd safonau gweithredol a rheoleiddiol.
  • Cymryd rhan mewn rota galwad y tu allan i oriau gwaith gan sicrhau 
    parhad gwasanaeth ar gyfer gweithrediadau TrC.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad o systemau gweithredu Gweinydd Windows a llwyfannau Hypervisor 2016 a thu hwnt, VMware/vSphere.)
  • Profiad o ddefnyddio a darparu cymorth ar gyfer technolegau Cwmwl (Azure IaaS a gweinyddiaeth Microsoft 365.)
  • Gweithrediadau a rheolaeth y Ganolfan Ddata gan gynnwys cynlluniau wrth gefn ac adfer ar ôl trychineb.
  • Profiad neu brofiad amlwg o sgriptio ac awtomeiddio PowerShell.
  • Gwybodaeth am egwyddorion ITIL a'r gallu i gyfleu cysyniadau technegol i gynulleidfaoedd annhechnegol.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.