A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cydlynydd Llywodraethu Corfforaethol i'r Prif Weithredwr a'r Cadeirydd, (Cymraeg / Swyddle
Swydd:
Cydlynydd Llywodraethu Corfforaethol i'r Prif Weithredwr a'r Cadeirydd, (Cymraeg Hanfodol)
Lleoliad:
Caerdydd, Hybrid, Cyffordd Llandudno
Cyflog:
£30,615 - £33,103 pro rata
Cyfeirnod:
SCW118
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Gofal Cymdeithasol Cymru
Dyddiad Cau:
22-02-2026

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Er mwyn gwneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.

Y Rôl

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Llywodraethu Corfforaethol sy'n siarad Cymraeg (Cynorthwyydd Personol i'r Prif Weithredwr a Chadeirydd ein Bwrdd) ar sail tymor penodol tan 31 Hydref 2026.

Mae hon yn rôl allweddol sy'n darparu cefnogaeth weithredol, sefydliadol a llywodraethu lefel uchel i'r Prif Weithredwr, Cadeirydd y Bwrdd a'r Tîm Rheoli Gweithredol (EMT). Byddwch yn helpu i sicrhau arweinyddiaeth effeithiol, rhedeg prosesau corfforaethol yn esmwyth, a'r safonau llywodraethu uchaf ar draws ein sefydliad.

Cynigir y rôl hon gydag opsiynau gweithio hyblyg, ac rydym yn hapus i ystyried trefniadau rhannu swyddi.

Prif ffocws y rôl hon yw:

Darparu cefnogaeth Cynorthwyydd Personol proffesiynol i'r Prif Weithredwr a'r Cadeirydd, gan gynnwys rheoli dyddiaduron, monitro mewnflychau, trefnu cyfarfodydd a theithio, paratoi gohebiaeth a chynnal systemau swyddfa effeithiol.

Drafftio, paratoi a sicrhau ansawdd briffiau, cyflwyniadau a dogfennau dwyieithog ar gyfer y Prif Weithredwr, y Cadeirydd a'r EMT.

Cysylltu'n hyderus â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru.

Cynorthwyo i gydlynu digwyddiadau, ymweliadau a chyfarfodydd a gynhelir gan y Prif Weithredwr a'r Cadeirydd.

Cefnogi cyfarfodydd corfforaethol, gan sicrhau agendâu, papurau a chofnodion o ansawdd uchel ar gyfer cyfarfodydd.

Cefnogi'r Tîm Llywodraethu Corfforaethol i gyflawni'r cynllun gwaith blynyddol a chynnal safonau llywodraethu ledled y sefydliad.

Os ydych chi'n meddwl mai chi yw'r ymgeisydd delfrydol ar gyfer y swydd, edrychwch ar y swydd ddisgrifiad am ragor o wybodaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 22 Chwefror 2026.

Rhaid i chi fod wedi'ch lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon a gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd a nodwyd pan fo angen.

Y Manteision

- Cyflog o £30,615 - £33,103 pro rata
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (pro rata)
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid o adref ac o'n swyddfa yn ôl yr angen
- Polisi absenoldeb teuluol

Gellir gwneud addasiadau rhesymol ar unrhyw gam o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, er enghraifft sy'n niwro-amrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â'r Tîm AD i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.