A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Datblygu Masnachol (Rhaglen) / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Datblygu Masnachol (Rhaglen)
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£37,000 - £40,000
Cyfeirnod:
REC01497
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
11-01-2026

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu a rheoli prosiectau sydd yn yr arfaeth drwy flaenoriaethu ac asesu rhinweddau prosiectau unigol yn ôl meini prawf sgorio penodol i sicrhau bod TrC yn cael llif sefydlog a chyson o brosiectau masnachol er mwyn ceisio cael gwerth ariannol ac anniriaethol y bydd modd wedyn ei ail-fuddsoddi i’r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru.

 

  • Datblygu achosion busnes ar gyfer amrywiaeth eang o gyfleoedd gwahanol i gynhyrchu gwerth er mwyn i’r adran Datblygu Masnachol allu cefnogi prosiectau sydd fwyaf addas i TrC ac yn creu’r elw gorau iddo.

 

  • Cefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Masnacheiddio, gan gynnwys hysbysebu, manteisio ar brofiad, gwerthu, loceri parseli, meysydd parcio a ffrydiau incwm newydd drwy reoli rhaglen waith a phrosiectau, gan sicrhau bod y cynlluniau cysylltiedig yn cael eu cyflwyno yn unol ag amserlenni penodol ac yn unol â'r gyllideb - gan sicrhau'r elw mwyaf posibl ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru.

 

  • Cefnogi twf masnachol gweithrediadau cyfredol drwy ddarparu crebwyll, cyngor ar gymorth dadansoddol a chynigion i’w newid pan fo hynny’n berthnasol, er mwyn sicrhau gwelliant parhaus a'r perfformiad busnes gorau posibl - gan ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, cyngor arbenigol a buddsoddiad mewn seilwaith.

 

  • Datblygu rhwydwaith o gysylltiadau ar draws yr holl ffrydiau gwaith datblygu masnachol i helpu i sbarduno mentrau newydd a gwella perfformiad ariannol

 

  • Rheoli cynhyrchu refeniw prosiect trwy gysylltu â'r Partner Busnes Cyllid a'r gadwyn gyflenwi i sicrhau cynlluniau ariannol prydlon a chywir, ac i sicrhau gwerth am arian.

 

  • Hyrwyddo cyflwyno cyfleoedd masnachol drwy ddylanwadu ar ysgrifennu a methodoleg busnes TrC i wneud TrC a’i brosiectau yn fwy cynaliadwy yn ariannol.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad mewn swydd fasnachol sy'n gyfrifol am ddatblygu busnes cyfredol a busnes newydd.
  • Profiad o ddatblygu incwm/refeniw masnachol mewn sefydliad darparu gwasanaeth mawr (er enghraifft trafnidiaeth, hamdden, lletygarwch, rheoli cyfleusterau).
  • Sgiliau rheoli rhaglenni, gyda phrofiad o gefnogi’r gwaith o greu a chyflawni cynlluniau sy’n uchel eu proffil neu’n werthfawr.
  • Dealltwriaeth dda o excel ac adnoddau dadansoddi i gefnogi'r timau Datblygu Masnachol ac Eiddo Masnachol ehangach.
  • Addysg ar lefel gradd neu lefel academaidd gyfatebol fel Busnes, Economeg neu bwnc tebyg, neu brofiad cyfatebol.

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.