A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog / Swyddle
Swydd:
Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog
Lleoliad:
Gweithio o Gartref
Cyflog:
£21,473 – £35,312 dibynnol ar oriau a gytunwyd
Cyfeirnod:
CCPW26820
Math o Swydd:
Parhaol ( 22.5 i 37 awr yr wythnos )
Cleient:
Chwarae Cymru / Play Wales
Dyddiad Cau:
14-09-2026

Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog

Lleoliad: gweithio o gartref yn bennaf, gyda’r angen am rywfaint o weithio yn y swyddfa a theithio trwy Gymru

Oriau: 22.5 i 37 awr yr wythnos – i’w gytuno gyda’r ymgeisydd llwyddiannus

Cyflog: £21,473 – £35,312 (yn ddibynnol ar yr oriau a gytunwyd) NJC 24-27

Dyddiad cau: 14 Medi 2026 (9:00am)

Dyddiad cyfweliad: 21 Medi 2026 (bydd y cyfweliad yn cynnwys prawf o 1 awr a 15 munud i asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer y rôl)

Mae Chwarae Cymru yn recriwtio Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog rhan-amser i ymuno â’i tîm bychan.

Bydd y Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog yn gwneud cyfraniad allweddol i gynllunio, trosglwyddo a gwerthuso gweithgarwch cyfathrebu o safon uchel, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y mudiad. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys creu cynnwys dwyieithog ar gyfer gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol, cydlynu gweithgareddau marchnata, a chefnogi cynllunio a throsglwyddo digwyddiadau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg gyda phrofiad o waith cyfathrebu a chydlynu digwyddiadau, a gydag ymrwymiad cryf i ymarfer cynhwysol, hygyrch a dwyieithog. Mae’r criteria hanfodol ar gyfer y swydd hon yn cynnwys o leiaf ddwy flynedd o brofiad mewn rôl â ffocws ar gyfathrebu, a sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae Chwarae Cymru’n croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hil, oedran, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol, statws priodasol, rhyw, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd neu gredoau.