Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Pam ymuno â S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni symud ymlaen i weithredu ar strategaeth 2030. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn trefnus, dibynadwy, gweithgar a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n Tîm Cyllid dros dro.
Trosolwg y Swydd
Byddwch yn gyfrifol am weithgareddau rheoli costau cynnwys ac adroddiadau cyllidebol gan gynnwys darparu cyngor proffesiynol i alluogi penderfyniadau gwybodus i gael eu wneud.
Byddwch yn cyfathrebu’n effeithiol ac yn gweithio’n agos gyda’ch cydweithwyr ac eraill i sicrhau ein bod yn gwireddu ein hamcenion corfforaethol a’n rhagoriaeth greadigol gan sicrhau ein bod yn gweithredu’n effeithiol ac yn unol a’n hymrwymiadau strategol.
Sylwer bod y rôl hon wedi’i bwriadu ar gyfer cyfrifydd cymwysedig. Disgwylir i ddeiliad y swydd ddarparu arbenigedd technegol ym maes cyfrifeg a chefnogaeth i’r tîm Cyllid ehangach.
Gall fod hefyd yn ofynnol i ddeiliad y swydd ymgymryd â dyletswyddau a phrosiectau nad ydynt wedi’u nodi’n benodol yn y disgrifiad swydd hwn er mwyn cefnogi gweithrediad effeithiol a gwelliant parhaus y swyddogaeth Gyllid. Fodd bynnag, caiff y disgrifiad swydd hwn ei ddiwygio a’i adolygu o bryd i’w gilydd i adlewyrchu unrhyw gyfrifoldebau ychwanegol sy’n briodol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Fel Cyfrifydd dros dro byddwch chi’n:
• Cynorthwyo’r Rheolwr Cyllid a’r timau Cyfreithiol a Materion Busnes gyda phob agwedd ar gyllid a gweinyddu contractau, gan gynnwys rhaglennu, deunydd amlgyfrwng a chontractau busnes cyffredinol eraill. Bydd hyn yn cynnwys prosesu taliadau ar gyfer y gyllideb yr ydych yn gyfrifol am ei gweinyddu yn unol a’r cytundebau perthnasol a sicrhau bod y manylion cywir ar gael i adrannau eraill.
• Sicrhau bod adroddiadau’n cael eu paratoi a’u cynnal sy’n manyli ar gyllidebau ariannol, taliadau a llif arian ar gyfer yr holl gynnwys a chyllidebau sy’n ymwneud a chynnwys, ar draws pob llwyfan. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod pob taliad yn cael ei wneud i gyflenwyr yn unol a chontractau.
• Mynychu cyfarfodydd cyllideb yn ol yr angen i gyflwyno a thrafod yr adroddiadau cyllid.
• Sicrhau bod systemau ar waith i sicrhau y gellir cynhyrchu adroddiadau rheolaidd i adlewyrchu costau cynnwys, oriau darlledu, stoc, taliadau ac ymrwymiadau.
• Yn ogystal a’r uchod, paratoi adroddiadau cyllideb fisol fanwl ar gyfer yr holl gyllidebau sydd o dan eich rheolaeth, ynghyd ag unrhyw ffioedd sy’n gysylltiedig a chyhoeddi ar bob llwyfan.
• Paratoi cyngor proffesiynol a rhannu gwybodaeth amserol gyda deiliad y gyllideb i alluogi penderfyniadau gwybodus.
• Arwain y gwaith o gysoni ac adrodd ar gyfrifon penodedig y fantolen ar ddiwedd y flwyddyn (gan gynnwys croniadau, rhagdaliadau, balansau banc a phrydlesi), a pharatoi'r datgeliadau statudol cysylltiedig, papurau gwaith archwilio a papurau ategol.
• Goruchwylio ac, yn ol yr angen, helpu i weinyddu’r taliadau priodol i actorion, awduron, cerddorion a chyfranwyr eraill am ailddarllediadau ac ar wahanol llwyfannu.
• Cynorthwyo gydag archwiliadau o gynyrchiadau cynnwys yn ol yr angen.
• Cynhyrchu adroddiadau misol TAW ar gyfer S4C.
• Datblygu taenlenni newydd i helpu i reoli’r gyllideb a pharatoi adroddiadau ad hoc fel sy’n ofynnol gan y Prif Swyddog Cyllid a’r Rheolwr Cyllid.
• Dirprwyo ar gyfer y Rheolwr Cyllid yn ei habsenoldeb.
• Rheoli aelodau o’r Tim Cyllid.
• Cysylltu a chyflenwyr S4C a holl adrannau eraill S4C.
• Cyfrannu at gyfarfodydd a thrafodaethau mewn perthynas a’ch prif gyfrifoldebau a thu hwnt er lles S4C yn gyffredinol.
• Adolygu a chymeradwyo cysoniadau mantolen misol, gan gynnwys cyfrifon banc, dyledwyr, credydwyr a chyfrifon rheolaeth allweddol eraill, gan sicrhau bod pob eitem gysoni yn cael ei hymchwilio a'i chlirio mewn modd amserol.
• Adolygu ac awdurdodi rhediadau taliadau wythnosol, gan sicrhau bod taliadau'n cydymffurfio â gweithdrefnau ariannol S4C.
• Cefnogi datblygu, gweithredu, profi a gwella systemau a phrosesau ariannol yn barhaus, gan sicrhau bod gofynion y busnes yn cael eu diwallu a bod rheolaethau ariannol priodol yn cael eu cynnal.
• Cyfrannu at ddatblygu, profi a gweithredu'r System Rheoli Darllediadau (Broadcast Management System) newydd.
Fel Rheolwr byddwch yn:
• Sicrhau bod cyflawni ein strategaeth yn ganolog i waith y tîm.
• Mentora staff i ddatblygu eu sgiliau drwy roi cefnogaeth ac adborth cyson.
• Arwain, rheoli ac ysgogi eich tîm, gan ddarparu cyfeiriad, amcanion clir ac adborth adeiladol ac ystyrlon mewn cyfarfodydd 1-1 rheolaidd.
• Cefnogi aelodau staff eich timau gan ddatblygu, ymgysylltu a grymuso staff.
• Cyfathrebu'n effeithiol a gweithio'n agos gyda'ch cydweithwyr ac eraill i sicrhau ein bod yn gwireddu ein hamcanion strategol gan weithredu'n effeithiol.
• Adolygu a monitro’r gwaith a gwirio ei ansawdd gan sicrhau targedau ac arweiniad clir gan sicrhau cefnogaeth bwrpasol er mwyn sicrhau safon a datblygiad perfformiad.
• Creu amgylchedd sy’n cefnogi perfformiad uchel, arloesedd, cydweithio, llesiant, datblygu, ymgysylltu a grymuso staff.
• Arwain a rheoli newid gwasanaeth a gwelliant parhaus.
• Sicrhau lles y staff dan eich goruchwyliaeth, yn cymryd cyngor pwrpasol gan eich rheolwr llinell neu yr adran Pobl a Diwylliant fel yr angen.
• Sicrhau diwylliant cadarnhaol a chreu amgylchedd sy’n cefnogi perfformiad uchel arloesedd, cydweithio, llesiant, datblygu, ymgysylltu a grymuso staff.
• Sicrhau bod y staff o dan eich goruchwyliaeth yn gweithio bob amser yn unol â pholisïau a gweithdrefnau S4C gan gynnwys Polisïau Iechyd a Diogelwch, Diogelu data, Cyllid,Rheoli Risg, Cyfle Cyfartal & Chynhwysiant, a materion cyflogaeth.
• Byw a hybu gwerthoedd S4C.
• Disgwylir ichi ymgymryd ag unrhyw waith neu gyfrifoldebau rhesymol eraill sy’n codi o bryd i’w gilydd a dirprwyo ar ran eich Rheolwr Llinell yn eu habsenoldeb neu fel bo’n ofynnol yn y meysydd sy’n gysylltiedig â’ch gwaith chi.
Byddwch hefyd yn:
• Ymwybodol o Strategaeth S4C 2030, a sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl y gofyn sy'n cynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a diogelwch, amrywiaeth a chynhwysiant, gwarchod data, canllawiau ariannol ac yn y blaen.
• Cyfrannu mewn ffordd bositif tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C.
• Cyfrannu at a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
• Cydweithio gyda'ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
• Sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws-sefydliadol, sy'n datblygu gwasanaethau gwych i'n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysfawr sy'n trin pawb gyda pharch.
Beth fyddwch chi’n ei gael?
• Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sefydliad sy’n gwerthfawrogi pobl.
• Gweithio mewn amgylchedd hyblyg o fewn un o’n swyddfeydd yng Nghymru.
• Mae S4C yn ymrwymo i dwf personol ei gweithwyr, gan gynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad cynhwysfawr i wella sgiliau a hyrwyddo gyrfaoedd.
• Mae hyn yn cynnwys mynediad at gymwysterau, hyfforddiant mewnol, a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus.
• Mynediad at gyfleoedd unigryw yn y sector cyfryngau gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau a rhagolwg rhaglenni, trafodaethau panel a diweddariadau mewnol.
• Mae gan weithwyr y cyfle unigryw i gyfrannu at hybu a chadw iaith a diwylliant Cymru drwy eu gwaith.
• Mae S4C yn cynnig Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda 10% yn cael ei gyfrannu gan S4C.
• 26 diwrnod o wyliau yn ogystal a gwyliau banc yn cynyddu yn raddol hyd at 32 diwrnod ymhen 9 mlynedd. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau
Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch a Elinor Price ar Elinor.Price@s4c.cymru
Manylion eraill
Lleoliad: Un o swyddfeydd S4C: Yr Egin Caerfyrddin, Sgwâr Canolog Caerdydd neu Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod yn y swyddfa). Gall fod angen presenoldeb ychwanegol yn y swyddfa yn ystod y cyfnod hyfforddi a sefydlu cychwynnol. Bydd disgwyl i chi fynychu/gweithio o swyddfeydd eraill yn ôl yr angen.
Cyflog: £42,000 y flwyddyn
Cytundeb: Dros Dro 12 mis (Cyfnod Mamolaeth)
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 3 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig.
Ceisiadau dewiswch "Ceisio Nawr" uchod
Dylid anfon ceisiadau erbyn 5 or gloch ar 23 Hydref 2026 at ebost pobl@s4c.cymru.
Dyddiad Cyfweliad: 3 Tachwedd 2026. Lleoliad i'w cadarnhau.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.