A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch Gyfieithydd / Swyddle
Swydd:
Uwch Gyfieithydd
Cyflog:
£42,662 - £46,662
Cyfeirnod:
202916
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
Dyddiad Cau:
25-01-2026

Y rôl

Ydych chi'n angerddol am y Gymraeg? Oes gennych chi sgiliau iaith da a chreadigol? Ydych chi'n mwynhau helpu eraill gyda'u hanghenion o ran y Gymraeg? Rydyn ni'n chwilio am gyfieithydd profiadol i ymuno â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel Uwch Gyfieithydd yn ein Tîm Cyfieithu prysur.

Gan adrodd i Arweinydd y Tîm Cyfieithu, byddwch yn ymuno â thîm bach o gyfieithwyr ac yn arwain o ran sut mae CNC yn ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid gyda Chymraeg clir, cywir a chreadigol mewn modd amserol ac i safon uchel.

 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Darparu gwasanaeth cyfieithu a phrawfddarllen o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid
  • Cyfieithu a phrawfddarllen amrywiaeth eang o ddogfennau i safon uchel iawn i gwrdd ag anghenion ein polisi Iaith Gymraeg a’n harddull ysgrifennu mewnol.
  • Arwain y gwaith o sicrhau ansawdd digonol ar gyfer gwasanaeth allanol CNC, gan fonitro ar gyfer cysondeb a glynu at arddull mewnol.
  • Cyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid i ddarparu lefel uchel o wasanaeth a rheoli disgwyliadau yn effeithiol.
  • Gweithio’n fanwl gywir er mwyn cynnal safonau proffesiynol.
  • Cynnal a chadw system gadw cofnodion er mwyn olrhain galw a chostau.
  • Datblygu perthynas a chysylltiadau yn fewnol ac allanol er mwyn cefnogi darpariaeth well o wasanaethau dwyieithog.
  • Darparu cyngor cyfieithu arbenigol i aelodau eraill o’r tîm, gan ddefnyddio doethineb a’ch sgiliau proffesiynol, yn arbennig o ran cysondeb a’r defnydd o derminoleg.
  • Mentora a chynorthwyo aelodau eraill o’r tîm a mynd ati’n weithredol i chwilio am ffyrdd o wella yn y tîm ehangach.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn 'Sgwrs' yn CNC).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

 


Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

  • Profiad helaeth o weithio fel cyfieithydd.
  • Gwybodaeth weithredol o Microsoft Office a meddalwedd cof cyfieithu.
  • Y gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol.
  • Aelodaeth lawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, neu barodrwydd i weithio tuag at aelodaeth lawn.
  • Ymwybyddiaeth o Safonau'r Gymraeg a pholisïau cysylltiedig sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
  • Sgiliau rhyngbersonol da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Ymwybyddiaeth o Safonau'r Gymraeg a pholisïau cysylltiedig sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
  • Dealltwriaeth a gwybodaeth am gylch gwaith, rolau, polisïau a blaenoriaethau CNC.
  • Y gallu i wneud penderfyniadau da, yn arbennig o ran terminoleg a’r defnydd o'r Gymraeg.

 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: C2 - Lefel hyfedredd uwch

 
Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio