Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Enw'r Cyflogwr: Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
Cyflog: £25,000 + Pensiwn
Dyddiad Cau: 30/10/2026
Amser Cau: 17:00:00
Enw Cyswllt: Sioned Davies
Ffôn: 01495755861
E-bost: sioned@menterbgtm.cymru
Gwefan: https://www.menterbgtm.cymru/
Lleoliad: Ystafell/Room L4, Alder Suite, Tŷ Mamhilad House C, Ystâd Mamhilad Park Estate, Pont-y-pŵl, Torfaen, Cymru, NP4 0HZ
Disgrifiad:
Swyddog Datblygu Cymunedol
Ydych chi’n hoffi trefnu gweithgareddau ac yn caru’r Gymraeg?
Mae Sefydliad Corfforedig Elusennol Menter Iaith BGTM (rhif elusennol 1181104) yn chwilio am berson arbennig i adeiladu ar y gwaith o hyrwyddo a datblygu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol.
Cefndir
Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991,ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.
Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau:-
Darparu cyfleoedd i drigolion y sir gael mynediad i ddigwyddiadau ieithyddol, diwylliannol a chelfyddydol.
Grymuso grymuso unigolion, grwpiau a chymunedau i ddefnyddio’r iaith
Asesu anghenion cymunedau Blaenau Gwent a Thorfaen o safbwynt gweithgareddau cyfrwng Cymraeg drwy broses o ymgynghori eang.
Meithrin a datblygu cysylltiadau agos gyda grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a phartneriaid eraill (e.e Cymraeg i Oedolion Gwent, Mudiad Meithrin) gan gydlynu a threfnu gweithgareddau blaengar a deniadol a’u gwerthuso’n gyson.
Gweithio gyda phlant a phobl o bob oedran.
Datblygu prosiectau penodol a flaenoriaethwyd yng nghais a thargedau’r Llywodraeth.
Cyfrannu at brosesau gwerthuso a monitro'r Fenter.
Paratoi ceisiadau am nawdd ar adegau.
Manyleb person
Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol
Dealltwriaeth o ddiwylliant ac anghenion ieithyddol Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
Profiad o weithio gyda phlant ac oedolion a threfnu amryw o weithgareddau ar eu cyfer
Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau
Hyderus pan yn weithio’n annibynnol ac yn dangos blaengaredd
Profiad o greu ac annog syniadau newydd (arloesol)
Sgiliau safonol o ddefnyddio TG / cyfryngau cymdeithasol
DBS cyfredol
Trwydded yrru gyfredol a char
Telerau’r Swydd
Cyflog: £25,000
Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol
Costau Teithio
Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM
Oriau Gwaith
37.5 awr yr wythnos. Yn ddelfrydol bydd hon yn swydd amser llawn ond gellir ystyried ymgeiswyr sydd am weithio’n rhan amser.
Gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn (+2 ddydd ychwanegol ar gyfer y Nadolig)
Hyd y Cytundeb
Parhaol
Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.
Strwythur Rheoli
Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd Prif Swyddog ac yn atebol i fwrdd Ymddiriedolwyr y Fenter.
Lleoliad swyddfa’r Fenter
Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C
Llawr Cyntaf Gogledd
Ystad Parc Mamhilad Park
Pontypŵl
NP4 0HZ
Dyddiad Cau: 30 Hydref 2026
Cyswllt: Sioned Davies
sioned@menterbgtm.cymru
Dychwelwch y ffurflen trwy ebost os gwelwch yn dda erbyn 5pm, Dydd Gwener, 30 Hydref 2026.