Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Comisiynydd Cynnwys Digidol
Pam ymuno â S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni gyflwyno ein strategaeth cynnwys newydd aml-blatfform. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn dynamig, creadigol a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ddatblygu ein cynnwys digidol.
Trosolwg y Swydd
Dyma gyfle arbennig i unigolyn profiadol a galluog arwain, diffinio a datblygu strategaeth gynnwys byd digidol ac aml blatfform S4C. Bydd y Comisiynydd Cynnwys Digidol yn gweithio’n agos gyda’r Comisiynwyr Cynnwys eraill, y Pennaeth Ffrydio a Digidol, y Pennaeth Cynllunio a Rheoli Cynnwys yn ogystal â thimoedd eraill yn S4C gan gynnwys y tîm technegol, y tîm materion busnes a chyllid a’r tîm cyfreithiol.
Wrth i S4C ddatblygu ein cynnwys digidol rydym yn chwilio am arweinydd profiadol a chreadigol all ddatblygu presenoldeb S4C ar draws platfformau digidol. Wrth ymateb i’r newidiadau mewn arferion gwylio a chynhyrchu cynnwys digidol ar amrywiol blatfformau, bydd angen dealltwriaeth ddofn o’r maes, yn ogystal â phrofiad o gynhyrchu cynnwys. Byddwn yn cynyddu ein buddsoddiad mewn cynnwys sydd wedi ei gomisiynu a’i greu yn benodol ar gyfer platfformau digidol, a bydd y rôl yma yn gyfrifol am lunio gweledigaeth ar gyfer denu cynulleidfaoedd newydd at gynnwys S4C ar YouTube.
Bydd y Comisiynydd Cynnwys Digidol yn sicrhau safonau golygyddol uchel a rhagoriaeth greadigol, yn ogystal ag aliniad gyda blaenoriaethau strategol S4C.
Manylion eraill
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 3 diwrnod yn y swyddfa)
Cyflog: Cyflog cystadleuol yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad. Bydd y cyflog dim llai na £70,000 y flwyddyn. Mae croeso i chi gysylltu â thîm Pobl a Diwylliant ar pobl@s4c.cymru am rhagor o fanylion am amodau a thelerau’r swydd
Cytundeb: 4 blwyddyn yn y lle cyntaf
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 3 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio rhwng swyddfeydd, ar ymweliadau ac i ddigwyddiadau yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig ac yn achlysurol, yn rhyngwladol.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 27 Gorffennaf 2026 at pobl@s4c.cymru.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ein bwriad ar hyn o bryd yw cyrraedd rhestr fer yn fuan ar ôl y dyddiad cau, gyda cyfweliadau wedi’u cynllunio ar gyfer canol mis Awst yn dibynnu ar argaeledd ymgeiswyr. Gofynnwn yn garedig i chi nodi unrhyw dyddiadau nad ydych chi ar gael yn ystod mis Awst. Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r unigolyn cywir ar gyfer y rôl ac mae’n bosibl y bydd angen addasu’r amserlen os bydd angen.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.