A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynorthwyydd Gweinyddol / Swyddle
Swydd:
Cynorthwyydd Gweinyddol
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£25,957-£26,131
Cyfeirnod:
202601CW
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Careers Wales Gyrfa Cymru (Career Choices Dewis Gyrfa)
Dyddiad Cau:
21-01-2026

Ydych chi'n chwilio am swydd lle rydych yn gweithio mewn tîm sy'n ysbrydoli ac yn cefnogi pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf i ymuno â'n tîm i ddarparu'r cymorth gweinyddol er mwyn ein galluogi i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.

 

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaeth Cymru’n Gweithio.

 

Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon feddu ar o leiaf sgiliau iaith Gymraeg lefel Sylfaen.

 

 

Swydd:                               Cynorthwyydd Gweinyddol

 

Swyddfa:                            Canolfan Gyrfa Caerdydd

 

Oriau Gwaith:                      37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Dydd Gwener 

 

Graddfa Cyflog:                £25,957-£26,131

 

Cyflog Cychwynnol:         £25,957 y flwyddyn.    

  

Dyddiad Cau:                     Hanner nôs 21/01/26.

 

 

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth gweinyddol a derbynfa effeithlon ac effeithiol i'n Tim Cymru’n Gweithio. Fel rhan o’r cynllyn hyfforddiant ar gyfer y swyddi yma bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau Prentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes, Lefel 2, os nad oes ganddynt y cymhwyster yn barod.

 

Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn meddu ar y canlynol:

 

  • Sgiliau Iaith Gymraeg h.y. y gallu i ddeall a chyfathrebu ar lefel sylfaenol am bynciau bob dydd, cymryd rhan mewn sgyrsiau syml, darllen ac ymateb i negeseuon sylfaenol, ac ysgrifennu nodiadau neu e-byst byr.
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol a'r gallu i ddelio ag ymholiadau (dros y ffôn, dros yr e-bost ac wyneb yn wyneb) gan aelodau o'r cyhoedd, staff mewnol a rhanddeiliaid allweddol.
  • Ymrwymiad i ddangos gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
  • Y gallu i ymdrin ag ymholiadau anghyffredin lle y gall fod angen trafod a pherswadio
  • Sgiliau TGCh dangosadwy
  • Y gallu i drefnu a blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun a chyrraedd amrywiol derfynau amser
  • Y gallu i ddefnyddio cymhelliant a chrebwyll wrth gyflawni dyletswyddau o ddydd i ddydd
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm

 

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.  Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.

 

Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.

 

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.  

 

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

 

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nôs ar 21/01/26. Bydd y broses ddethol ar ffurf prawf ymchwil/ysgrifenedig a chyfweliad. Bydd yr asesiadau hyn yn cael eu cynnal yn ddigidol ar Teams ar yr  2il a 3ydd  o Chwefror 2026.

 

Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.

 

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg.  Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddiannau deniadol, gan gynnwys amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser), cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd.