Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Pam ymuno ag S4C?
Yn S4C, rydym yn angerddol am greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein prif werthoedd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.
Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i feithrin diwylliant gwaith sy’n rhoi pobl wrth galon y sefydliad. Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol, cydymdeimladol a llawn egni sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n tîm Pobl a Diwylliant.
Trosolwg o’r Swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn hynod drefnus i gefnogi’r timau Gweithrediadau a Phobl a Diwylliant ar brosiect hanfodol i gydlynu ein gofynion storio corfforol ar draws y timau.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio’n systematig drwy gyfrol fawr o flychau sy’n cynnwys dogfennau papur hanesyddol, gan adolygu’r cynnwys, digideiddio cofnodion lle bo’n briodol, a nodi eitemau i’w cadw, eu trosglwyddo i storfa ddigidol neu eu gwaredu’n ddiogel yn unol â gofynion GDPR.
Yn ogystal, bydd yr ymgeiswydd llwyddiannus yn cefnogi trefnu a chydymffurfio ffolderi rhannu digidol, ac yn cyfrannu at wella safonau rheoli dogfennau a lleihau dibyniaeth ar storio corfforol yn y dyfodol. Bydd y rôl hon yn hanfodol i sicrhau trosglwyddiad trefnus a diogel o gofnodion papur i systemau digidol, gan symleiddio prosesau gweithredol a gwella cydymffurfiaeth ar draws yr adran.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gweithio o’r Egin 5 diwrnod yr wythnos.
Cyflog: £26,000 y flwyddyn
Contract: Contract tymor penodol am 16 wythnos
Cyfnod Prawf: 8 wythnos
Oriau: Hyd at 35.75 awr yr wythnos
Gwyliau: Yn ogystal â’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn. (Sylwer: bydd y nifer hwn yn cael ei gyfrifo'n ôl y gyfradd pro rata os ydych yn gweithio’n rhan amser).
Pensiwn: Mae staff cyflogedig yn gymwys i ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol a all gael ei ddiwygio o bryd i’w gilydd. Os ydych yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 26 Ionawr i Pobl@s4c.cymru neu Adran Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Dyddiad Cyfweliadau: 2 Chwefror 2026
Ni dderbynnir CV.
Mae croeso i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.